Croeso i Meic
Rhywun ar dy ochr di
Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru
Pan fydd pethau’n teimlo’n anodd, ti’n teimlo’n ddryslyd, neu rwyt ti eisiau gwneud newid, mae Meic yma i ti. Ni ydym yn barnu – byddwn yn gwrando ar unrhyw beth rwyt ti eisiau ei ddweud. Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol, ac yn helpu ti i gael llais. Byddwn yn gweithio gyda thi i ddarganfod ffyrdd i gymryd rheolaeth o dy fywyd, gwneud newidiadau positif, a theimlo’n fwy hyderus. Rydym eisiau i ti adael yn teimlo’n gryf, yn gallu gwneud dewisiadau dy hun, ac yn deall dy hawliau.
Cysyllta â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg – dy ddewis di! Rydym yn agored o 8yb i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysyllta ar y ffôn, neges WhatsApp, neges destun neu sgwrs ar-lein. Mae Meic yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i ti roi enw. Mae’n wasanaeth am ddim i bawb.
Cael Help
Dysga fwy am y pethau sy’n digwydd yn dy fywyd. Clicia ar bwnc rwyt ti eisiau gwybod mwy amdano a darganfod gwybodaeth, dolenni, a blogiau defnyddiol a allai helpu.
