Hide Page

Sut i Ymdopi Gyda Bwlio

Mae bwlio yn brofiad hunllefus. Er ei fod yn ymddygiad creulon ac anŵraidd, y gwir trist ydy bod rhai pobl yn parhau i fwlio fel oedolion. Dyna pam, yn ogystal â gweithredu i adrodd bwlio, mae’n bwysig dysgu sut i ymdopi fel nad yw ymddygiad bwlio yn gallu achosi cymaint o niwed i ti.

Isod rydym yn rhannu’r cyngor cyffredin rhoddir i’r rhai sy’n cysylltu â Meic am fater bwlio. Gobeithio bydd hyn yn fuddiol i ti:

Deall nad yw’n fai arnat ti, ac nid wyt ti ar ben dy hun. Mae bwlio yn ymddygiad sy’n cael ei ddysgu ac mae rhai pobl yn defnyddio hyn i guddio neu i ymdopi â phroblemau eu hunain. Gall rhesymau am fwlio gynnwys anhapusrwydd; cael eu bwlio eu hunain; anniogelwch a chenfigen.

Rhanna beth sy’n digwydd i ti gyda ffrind(iau) agos gallet ti ymddiried ynddynt. Rhai fydd yn hapus i gerdded/bod gyda thi pan fydd y bwli o gwmpas. Mae pobl yn llai tebygol o fwlio pan fydd ffrindiau eraill o gwmpas. Gallet ti hefyd siarad gydag aelod staff yn dy ysgol/coleg, fel cynghorydd neu swyddog lles.

Poster gwrth-fwlio. Merch cartŵn yn sibrwd wrth fachgen sy'n flin. Mae'r geiriau'n dweud 'Mae bwlio'n greulon'.

Gwarchod dy deimladau o alw enwau ac ymddygiad niweidiol. Os yw rhywun yn dweud rhywbeth niweidiol i ti, dychmyga dy hun yn dal y geiriau yma ac yn eu taflu i mewn i’r bin! Dilyna hyn gyda meddwl neu farn bositif ohonot ti dy hun, fel “dwi’n hoffi fy hun”, neu “Dwi’n glyfar”; byddi di’n cael dy synnu pa mor bwerus gall hyn fod.

Tacteg hunanamddiffyniad pwerus ydy i gerdded i ffwrdd o’r sefyllfa yn hyderus, gan ei fod yn cadw ti’n ddiogel ond hefyd yn gyrru neges gref i’r person sydd yn cyflawni’r bwlio nad wyt ti’n barod i gael dy dynnu i mewn. Gallet ti ddweud rhywbeth niwtral fel, “Welai di wedyn” wrth i ti adael.

Poster gwrth-fwlio. Merch cartŵn yn tynnu mwgwd hapus oddi ar ei hwyneb sydd yn crio. Mae geiriau'n dweud 'Mae bwlio'n dinistrio fy hapusrwydd'.

Os wyt ti’n teimlo’n ddigon diogel, siarada gyda’r person sydd yn gwneud y bwlio: efallai bydd hyn yn helpu datrys y sefyllfa. Efallai byddet ti’n darganfod nad ydynt yn ymwybodol o sut mae eu hymddygiad yn effeithio arnat ti. Os yw’r bwlio yn fwy difrifol ac yn cynnwys (neu gallai gynnwys) trais corfforol, siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt fydd yn gallu helpu rhoi diwedd ar y bwlio.

Poster gwrth-fwlio. Person cartŵn â llygad du, crys blêr gyda gwaed arno. Mae geiriau'n dweud 'Mae bwlio'n sarhaus'.

Rho dro ar hobïau newydd neu wneud mwy o’r pethau rwyt ti’n ei fwynhau. Gall gymryd rhan mewn gweithgareddau positif weithio gwyrthiau gyda dy hyder a dy les, yn ogystal â rhoi cyfle i ti wneud ffrindiau newydd sydd yn rhannu dy ddiddordebau. Mae teimlo’n dda amdanat ti dy hun a chael rhwydwaith o ffrindiau da yn gallu helpu lleihau’r effaith mae ymddygiad bwlio yn ei gael arnat ti.

Mae ymarfer corff yn gwneud pobl yn hapusach, lleihau straen a chadw ti’n iachach. Os wyt ti’n poeni neu’n teimlo straen am fwlio, ceisia wneud ychydig o weithgareddau corfforol, fel mynd am dro hir, nofio, a chwarae gemau tîm.

Poster gwrth-fwlio. Person cartŵn gyda'i ben yn ei ddwylo. Mae geiriau'n dweud 'Mae bwlio'n digwydd yn gyson'.

Darganfod os oes cynllun cyfoed/cyfryngu yn dy ysgol/goleg gan fod cyfryngu yn gallu helpu gyda materion bwlio, gwrthdaro a pherthynas yn torri lawr.

Siarada gyda Meic neu wasanaeth tebyg. Maent yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol, am ddim i helpu ti i wneud newid.

Gwefannau i gael gwybodaeth bellach:

Ditch The Label >> Top 10 Tips for Overcoming Bullying

Bullying UK >> Cyngor

The Mix >> Beat Bullying

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.