Gall y Nadolig fod yr amser gwaethaf yn y flwyddyn i rai pobl ifanc. Mae Meic – y llinell gymorth genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru – wedi gofyn i bobl ifanc i rannu eu profiad ar ffilm, i amlygu “gwir ystyr y Nadolig”.
Mae’r fideo newydd personol a heriol (gwyliwch yma ar dudalen YouTube Meic) yn cyd-fynd â’r ffigyrau gan Meic sydd yn dangos bod cannoedd o bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn angen rhywun i siarad â nhw dros y Nadolig – gyda’r brif broblem dros y tair i bedair blynedd diwethaf, yn berthnasau.
*Cliciwch ar yr opsiwn isdeitlau i weld yr isdeitlau Cymraeg.
“Y tu ôl i’r goleuadau llachar, yr anrhegion a’r papur, mae llawer o bobl ifanc yn cael problemau dros y Nadolig. Rydym wedi clywed gan lawer ohonynt sydd wedi cael trafferth gydag arian, perthnasau, iechyd meddwl, hawliau, a mwy.” – Stephanie Hoffman, Pennaeth Meic.
“Dros y Nadolig, [mae gen i’r] ofn mawr o fynd yn hen… heb anghofio’r terfynau amser… Cofiwch, bod gallu rhai pobl i deimlo’n ‘ddiolchgar’ neu’n ‘optimistaidd’ yn amhosib oherwydd rhesymau meddygol.” – Laolu, 21 (seren y ffilm).
“Nid oes posib teimlo hwyliau da’r Nadolig os ydych chi’n ffraeo gyda’ch teulu… ac [mae yna] synnwyr o deimlo fel nad wyt ti’n perthyn. Mae yna hefyd yr ofn o beth sydd i ddod yn y flwyddyn newydd… a dim digon o arian i brynu popeth ar gyfer y Nadolig.” – James, person ifanc o Gaerdydd.
“Mae Meic yma i helpu a chefnogi pobl ifanc trwy’r amseroedd anodd fel y Nadolig – nid oes rhaid dioddef yn ddistaw bach. Gallem wrando, siarad a helpu chi i ddarganfod ffordd o symud ymlaen.“ – Stephanie Hoffman.
Gall plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru gysylltu â Meic 365 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys diwrnod y Nadolig a Dydd Calan), 8am – hanner nos.
Gallwch wylio ‘Nadolig’ gan Laolu yma ar dudalen YouTube Meic gydag is-deitlau Cymraeg.
