Hide Page

Sut Gall Meic Roi Cyngor?

Pan fydd bywyd yn anodd, gallet ti droi at Meic am gyngor i helpu ti i feddwl beth yw’r camau cywir i ti. Mae Meic wedi bod yn helpu plant a phobl ifanc Cymru ers dros 10 mlynedd bellach.

Beth yw cyngor?

Os wyt ti’n ansicr beth i wneud mewn sefyllfa anodd, gall hynny fod yn rhwystrol iawn ac achosi i ti boeni. Mae derbyn cyngor yn gallu helpu ti i feddwl beth allet ti ei wneud i wella pethau.

Pan fyddi di’n gofyn am gyngor, bydd Meic yn arwain ac yn cefnogi ti i feddwl am opsiynau’r camau nesaf. Ni fydd Meic byth yn dweud beth ddylet ti wneud, ond yn helpu ti i feddwl beth sydd yn iawn i ti. Gallant roi cyngor am y gwasanaethau a’r bobl gorau i gysylltu â nhw i gael y cymorth rwyt ti ei angen.

Am ba fath o bethau ydw i’n gallu cael cyngor?

Byddi di’n wynebu sawl sefyllfa wahanol wrth i ti dyfu, pethau da a drwg, ond mae posib dod drwyddi. Weithiau dim ond ychydig o gyngor sydd ei angen arnat ti. Gall Meic helpu wrth roi cyngor ar unrhyw beth – nid oes dim yn rhy fawr na dim yn rhy fach.

Dyma gwpl o esiamplau o sut mae Meic wedi rhoi cyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r enwau ar yr esiamplau wedi cael eu newid. Nid ydym byth yn rhannu gwybodaeth bersonol y rhai sydd wedi cysylltu.

Ymunodd Tom ag ysgol uwchradd newydd ac mae’n ei chael yn anodd gwneud ffrindiau. Mae’n teimlo’n unig ac yn drist nad yw’n gallu siarad â neb. Cysylltodd â Meic a gofyn am gyngor ar sut i wneud ffrindiau newydd.

Roedd Ceri yn teimlo fel bod rhaid iddi ddefnyddio hidlydd ar Instagram i gael mwy yn hoffi ei lluniau. Mae’n teimlo ei fod yn gwneud iddi edrych yn well. Mae’n dechrau teimlo’n ddrwg am ei hedrychiad wrth iddi edrych yn y drych ac mae ei hunan-barch yn dechrau dioddef. Cysylltodd Ceri â Meic i gael cyngor am sut i wella ei hunanhyder.

Mae pethau’n anodd iawn ar Sam yn ei berthynas. Mae’n teimlo fel nad yw ei gariad yn ei garu ddim mwy. Mae’n caru ei bartner ac eisiau i bethau weithio ond mae’n chwilio am gysur. Cysylltodd â Meic yn gofyn am gyngor sut i gychwyn sgwrs iach gyda’i bartner am y ffordd mae’n teimlo.

Gif of child sat in fron tof tree in snow for meic info, advice and advocacy video Lean on Meic

Sut ydw i’n gallu cael cyngor gan Meic?

Mae yna flogiau gwych i’w darllen ar Meic sydd yn gallu cynnig llawer o gyngor gwych heb siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar. Os nad wyt ti’n barod i ofyn am gyngor yn uniongyrchol, cer draw i edrych ar rai o’n blogiau:

Pwyso ar Meic

Os nad wyt ti’n gallu gweld beth rwyt ti angen ar ein gwefan, neu os hoffet ti siarad â rhywun, gallet ti gysylltu â llinell gymorth Meic bob dydd rhwng 8yb a hanner nos ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim.

Gallet ti bwyso ar Meic am gefnogaeth bob tro – rydym wedi bod yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru ers dros 10 mlynedd. Cer draw i’n blog i wylio ein fideo newydd ac i edrych ar y pethau sydd wedi bod yn digwydd dros y byd dros y 10+ mlynedd o Meic.

Eisiau gwybod mwy am y gwasanaethau mae Meic yn cynnig? Darllena fwy am wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar ein blog – #Meic10

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.