Hide Page

Cyngor Cychwyn Ysgol Uwchradd

Cychwyn yn yr ysgol uwchradd am y tro cyntaf eleni? Poeni am fynd ar goll yn yr adeilad mawr, gwneud ffrindiau newydd neu’r gwaith ychwanegol? Dyma ganllaw goroesi Meic ar gyfer ysgol uwchradd.

Five people in schools uniform sat on wall for Survival Guide To Starting Secondary article

1. Nid ti yw’r unig un

Mae yna filoedd o bobl ifanc eraill ar draws Cymru sydd yn yr un sefyllfa. Mae llawer yn teimlo’n nerfus, pryderus, yn poeni, wedi cyffroi, a bob math o deimladau eraill! Mae’n debygol bod y mwyafrif o’r bobl ifanc sydd yn symud i dy ddosbarth yn teimlo’r un ffordd, yn waeth efallai, ac mae hynny’n hollol iawn. Mae teimlo’n nerfus yn naturiol. Dyma un o’r pethau mwyaf fydd yn digwydd i ti yn dy fywyd.

Cheerful school teacher giving help and support to schoolboy in class.

2. Chwilio am gymorth

Mae’r ysgol a’r athrawon yn deall bod hyn yn rhywbeth mawr i ti, ac mae’r mwyafrif o ysgolion yn gallu cynnig llawer o gefnogaeth a chymorth i ddisgyblion newydd blwyddyn 7. Bydd gen ti diwtor dosbarth sydd yn dy gofrestru ddwywaith y dydd. Gallant helpu gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gen ti. Bydd gen ti bennaeth blwyddyn hefyd, mentoriaid dysgu, cwnsler neu swyddogion llesiant gallet ti siarad â nhw. Efallai bydd disgyblon hŷn yn arwain disgyblion newydd o gwmpas yr ysgol ac yn helpu ti i setlo. Cofia holi unrhyw gwestiynau neu ofyn am gyngor.

Group of young friends sat down with arms around each other for Survival Guide To Starting Secondary article

3. Gwahanu o dy ffrindiau

Efallai byddi di’n cael dy wahanu oddi wrth ffrindiau ysgol gynradd, ond mae’n debyg bydd yna bobl eraill o’r ysgol yn dy ddosbarth. Efallai dy fod di’n gwybod pwy sydd yn dy ddosbarth cyn cychwyn. Gallech chi gytuno i gadw efo’ch gilydd am yr ychydig ddyddiau cyntaf tra rydych chi’n cyfarfod ffrindiau newydd. Ceisia beidio poeni gormod am gael dy wahanu. Ceisia deimlo’n gyffroes am gyfarfod ffrindiau newydd. Byddi di’n gweld hen ffrindiau yn yr egwyl, felly paid poeni.

Two people in school uniform chatting and smiling. Skeleton in background. School setting.

4. Cyfarfod ffrindiau newydd

Mae rhai pobl yn ei chael yn haws gwneud ffrindiau newydd, yn enwedig os wyt ti’n swil. Bydd yn helpu ti i gofio bod pawb yn yr un sefyllfa ac mae pawb eisiau cyfarfod ffrindiau newydd. Cyflwyna dy hun i rywun gwahanol bob dydd. Meddylia am gwestiynau i’w gofyn i ddarganfod mwy amdanynt. Bydd hyn yn help i ddarganfod pethau cyffredin. Ceisia beidio canolbwyntio ar wneud un ffrind yn unig, gall hyn fod yn anodd os ydynt yn sâl o’r ysgol. Bydd cyfarfod sawl ffrind newydd yn rhoi mwy o gefnogaeth ac yn ehangu dy ddiddordebau hefyd. Bydda’n ti dy hun, a chofia bod pawb yn yr un sefyllfa ac yn ceisio cyfarfod ffrindiau newydd.

A group of people heading towards the entrance to a large stone labyrinth. 3D Rendering. for Survival Guide To Starting Secondary article

5. Mynd ar goll!

Byddi di’n cael amserlen gyda’r holl wersi, pwy yw’r athro a rhif yr ystafell ddosbarth. Mae’r athrawon yn deall bod dod i adnabod ysgol newydd yn gallu cymryd amser ac mae’n debygol iawn y byddant yn sympathetig os wyt ti ychydig yn hwyr. Mewn rhyw wythnos neu ddau byddi di’n hen law ar newid o un wers i’r llall a gwybod i ble rwyt ti’n mynd. Gofynna i athro neu ddisgybl hŷn os wyt ti’n ansicr.

Young gorl sat in front of laptop

6. Gwaith cartref

Bydd yna wahaniaeth mawr yn y gwaith ysgol uwchradd o gymharu â’r ysgol gynradd. Efallai bydd y gwaith cartref yn teimlo’n ormod ar y cychwyn. Gallet ti dderbyn gwaith cartref ar gyfer sawl pwnc mewn un diwrnod yn yr uwchradd, o gymharu ag un darn o waith cartref yn yr ysgol gynradd.

Y gyfrinach yw bod yn drefnus. Gosod amser a lle i wneud gwaith cartref, ar ôl ysgol neu yn fuan fin nos efallai. Gwna’r gwaith pan fydd y wers yn dy ben o hyd, a phaid gadael i bethau bentyrru fel ei fod yn dod yn ormod. Arhosa ar y blaen. Os nad wyt ti’n deall y gwaith cartref yna gofyn i’r athro – mae’n well gofyn yn hytrach na pheidio cyflwyno’r gwaith ar amser. Os yw pethau’n dod yn ormod, ac mae’n anodd ymdopi, siarada gyda dy rieni, tiwtor dosbarth neu athro. Efallai gallant helpu ti i ddarganfod dulliau ymdopi.

Boy student getting bullied in school

7. Bwlio

Mae llawer o bobl ifanc sydd yn symud i’r uwchradd yn poeni am fwlio. Mae gan bob ysgol bolisi gwrth fwlio ac yn awyddus i stopio bwlio cyn gynted â phosib. Edrycha ar wefan yr ysgol i weld y polisi bwlio. Os nad wyt ti’n ei weld, gofynna i’r ysgol. Siarad a dweud wrth rywun yw’r cam cyntaf pwysicaf pan ddaw at fwlio. Os wyt ti’n ei chael yn anodd cael rhywun i wrando, cer i edrych ar ein blog 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio.

Os wyt ti’n ei chael yn anodd dweud wrth rywun dy fod di’n cael dy fwlio, gall Meic dy gefnogi gyda hyn. Rydym yma i wrando, siarad trwy’r opsiynau a gallem dy helpu i siarad gyda’r ysgol.

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.