Hide Page

Blacmel Rhywiol a Phorn Dial – Beth os yw’n Digwydd i Ti

Mae nifer ohonom yn hoff o sut mae technoleg yn gallu helpu ni i wneud cysylltiadau. Gall fod yn hwyl, ond dylid bod yn ymwybodol o’r peryglon hefyd, er mwyn i ti fedru amddiffyn a deall beth i wneud os yw rhywbeth yn mynd o’i le. Felly, gad i ni siarad am Flacmel Rhywiol a Phorn Dial a sut i gadw’n ddiogel mewn byd digidol.

Beth yw Blacmel Rhywiol?

Blacmel rhywiol (neu Sextortion) ydy pan fydd rhywun yn ecsbloetio lluniau neu fideos noeth, cignoeth neu sensitif ohonot ti fel ffordd i orfodi ti i yrru mwy o luniau neu arian. Efallai byddant yn bygwth rhannu’r delweddau yma gyda theulu neu ffrindiau os nad wyt ti’n gwneud fel y maent yn gofyn. Blacmel yw hyn.

Efallai byddant yn dy dwyllo di a dy ddenu di i mewn wrth smalio bod yn rhywun arall neu ‘grwmio‘ ti i wneud fel y dymunant. Efallai dy fod di’n meddwl dy fod di’n cael perthynas â’r person yma ac yn gyrru delweddau iddynt gan feddwl y byddant yn eu cadw’n breifat.

Beth yw Porn Dial

Porn Dial yw pan fydd rhywun yn rhannu lluniau neu fideos rhywiol preifat ohonot ti heb dy ganiatâd ar ôl i berthynas ddod i ben. Gall y rhain gael eu rhannu ar-lein, ar neges testun, e-bost, neu wrth ddangos i rywun wyneb i wyneb.

Mae blacmel rhywiol a phorn dial yn erbyn y gyfraith ac yn gallu cael effaith enfawr ar fywyd rhywun. Gall achosi pryder ac iselder, ac mae’n gallu arwain at bobl yn niweidio eu hunain neu’n waeth.

Sut i amddiffyn dy hun

1. Bydda’n glyfar ar-lein – bydda’n ofalus am ychwanegu pobl ddiarth. Nid yw pawb yn onest am bwy ydynt. Cer i weld cyngor Meic ar aros yn ddiogel ar dy ddyfeisiau ar-lein, gan gynnwys ychwanegu pobl, rhannu gwybodaeth, gosodiadau diogelwch ayb.

2. Gwranda ar dy reddf – nid oes rhaid i ti wneud rhywbeth am fod rhywun yn gofyn. Paid gwneud dim sydd yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus. Os yw rhywun yn dy fygwth neu’n rhoi pwysau arnat ti, dweud wrth rywun.

3. Cadwa dystiolaeth – cymera sgrinluniau o negeseuon neu luniau a chadw record. Bydd hyn yn helpu’r heddlu gydag unrhyw gamau cyfreithiol.

4. Blocia ac adrodd – stopia siarad â nhw, blocia ac adrodd. Paid gadael iddynt dy boeni rhagor.

5. Gofyn am help – efallai byddi di’n teimlo embaras neu’n ofni, ond mae angen i ti ddweud wrth rywun fel y gallan nhw helpu. Mae dweud wrth rywun yn gynnar yn gallu stopio pethau rhag gwaethygu. Ffonia’r heddlu ar 101 neu adrodd i CEOP. Adrodd i’r Llinell Gymorth Porn Dial os wyt ti dros 18 neu ymwela â Report Remove gan Childline os wyt ti dan 18. Byddant yn helpu pobl ifanc i adrodd y delweddau a’r fideos ac yn helpu i dynnu’r rhain o’r we. Os wyt ti angen cymorth i ddweud wrth rywun bod hyn yn digwydd i ti gall Meic helpu. Rydym yn llinell gymorth gyfrinachol a dienw i blant a phobl ifanc Cymru.

Dolenni defnyddiol:

Cysyllta â Meic

Os wyt ti’n chwilio am glust cyfeillgar i wrando a chynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth, yna gall Meic helpu. Bydd ein cynghorwyr cyfeillgar ar gael ar ein llinell cymorth rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Ffonia, tecstia neu sgwrsia ar-lein – manylion cyswllt isod.

Bydda’n ddiogel!

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.