Hide Page

Darganfod dy Gymuned a’r Gyfer dy Iechyd Meddwl

Eleni, mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cael ei gynnal o’r 12fed i’r 18fed o Fai a’r thema yw ‘Cymuned’. Mae’r blog yma’n rhannu syniadau ar sut i ddod o hyd i dy gymuned a sut mae bod yn rhan o gymuned yn gallu cael effaith ar dy iechyd meddwl.

Pam bod cymunedau yn bwysig?

Mae bod yn rhan o gymuned ddiogel a chadarnhaol yn hollbwysig i’n iechyd meddwl a’n lles. Mae cymunedau yn rhan ymdeimlad o berthyn, diogelwch a phwrpas i ni yn ogystal â chefnogaeth yn ystod cyfnodau anodd. Gall cymuned edrych yn wahanol i bawb; gall fod yn gymuned lleol neu yn gymuned ar-lein. Beth bynnag mae cymuned yn olygu i ti, mae’n bwysig dathlu’r cymunedau sy’n ein gwarchod a’n cefnogi ni.

Dyma ddim ond ychydig o’r ffyrdd mae bob yn rhan o gymuned yn gwella ein iechyd meddwl a’n lles:

Trechu unigrwydd a chreu cysylltiadau: Mae treulio amser gyda phobl eraill yn gwneud i ti deimlo’n llai unig. Mae cymunedau wedi’i ffurfio o bobl sydd yn rhannu’r un diddordebau, felly galli di ddod o hyd i bobl sy’n deall ac mae hyn yn gysur mawr.

Cymdeithasu a rhannu profiadau: Mae digwyddiadau cymunedol, wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn ffordd wych o dreulio amser yn gwneud rhywbeth ti’n garu. Mae rhannu profiadau yn gwneud gwyrthiau i dy hwyliau a dy les yn gyffredinol.

Pwrpas a chyfrannu: Mae cyfrannu i dy gymuned yn rhoi ymdeimlad o bwrpas i ti. Mae hyn yn gwneud i ti deimlo’n dda, yn enwedig pan ti’n helpu pobl eraill.

Cefnogaeth a gwytnwch: Mae cymunedau yn gallu cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol yn ystod cyfnodau anodd. Mae cael cefnogaeth gan eraill yn dy atgoffa nad wyt ti ar ben dy hun. Mae rhannu profiadau a chefnogi eich gilydd yn golygu bod pawb yn datblygu gwytnwch.

Adnoddau a pherthyn: Mae rhai cymunedau yn cynnig adnoddau fel grwpiau cefnogaeth i hybu lles. Mae teimlo fel dy fod yn perthyn i gymuned yn gallu gwneud i ti deimlo’n fwy sicr ac yn llai pryderus.

Illustration, A circle of people surrounding another circle of people all with their arms over the shoulders of the people to their sides

Sut i ddod o hyd i dy gymuned

Mae dod o hyd i dy bobl yn gallu cymryd amser, ond mae cymuned yn rhywle i bawb. Dyma ychydig o gyngor ar sut i helpu ti ddod o hyd i dy gymuned.

Cychwynna drwy edrych am bobl sy’n rhannu’r un diddordebau a ti. Ymuna â chlybiau, grwpiau neu fforymau ar-lein sy’n ymwneud a dy ddiddordebau. Mae digwyddiadau lleol, gweithdai a chyfleoedd gwirfoddoli yn lefydd gwych i gyfarfod pobl, felly cadwa lygad ar beth sydd yn digwydd yn dy ardal. Paid ag anghofio am bŵer y we – mae cymunedau ar-lein a grwpiau ar gyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda o gysylltu gyda phobl newydd. Os nad wyt ti’n siŵr ble i gychwyn, gofynna wrth dy ffrindiau, efallai byddant yn ymwybodol o grwpiau neu ddigwyddiadau.

Os wyt ti eisiau siarad am hyn neu unrhyw beth arall gyda rhywun a fydd yn gwrando, yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth, yna cysyllta â llinell gymorth Meic unrhyw ddiwrnod, rhwng 8am a hanner nos. Cyfrinachol ac am ddim.

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.