Hide Page

Ffrindiau, Teulu a Pherthnasau

Teulu ydy’r grŵp o bobl rwyt ti’n gysylltiedig â nhw trwy waed neu gysylltiad cryf o gariad a gofal. Nid dy rieni, brodyr a chwiorydd, a pherthnasau yn unig;  ond y bobl sydd yna i ti bob tro, beth bynnag sy’n digwydd.

Gall teuluoedd edrych yn wahanol iawn – efallai dy fod di’n dod o gartref un rhiant, wedi cael dy fabwysiadu, neu gyda llysfrodyr neu lyschwiorydd. 

Mae teuluoedd yn gallu cael cyfnodau da a chyfnodau drwg, ac mae yna rai sydd ddim yn cyd-dynnu o gwbl.

Os wyt ti eisiau help gyda dy deulu, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar deulu:

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.