Beth os fydda ti’n dod allan i dy rieni, ond yn derbyn ymateb anffafriol? Dyma’r sefyllfa yn Coda’r Meic yr wythnos hon. Dyma’n cyngor.
Roedd Coda’r Meic yn gyfle i ofyn cyngor am unrhyw oedd yn dy boeni. Nid oedd y cyngor yn dod yn syth ac roedd yn cael ei ddefnyddio i greu blogiau dienw ar gyfer y wefan i helpu pobl ifanc eraill oedd yn mynd trwy brofiad tebyg. Nid ydym yn cynnig Coda’r Meic bellach. Os wyt ti angen gwybodaeth cyngor neu eiriolaeth, cysyllta â’r llinell gymorth am gefnogaeth ar y manylion ar waelod y dudalen.
Helo Meic,
Dwi’n 20 oed ac wedi dod allan i’m rhieni yn ddiweddar, ond dydy dad heb dderbyn y newyddion yn dda iawn o gwbl. Mae wedi dweud nad oes neb yn cael dod yn ôl i’r tŷ.
Roedd yn anodd iawn dweud wrth mam a dad mod i’n hoyw. Dywedais wrth mam gyntaf a gofynnais a byddai’n dweud wrth dad, ond mynnodd y dylwn i ddweud wrtho fy hun. Credai bod hyn yn fater rhy bwysig i ddod gan rywun arall. Roeddwn bron yn sicr bod mam yn gwybod mod i’n hoyw yn barod, felly roedd yn syndod i mi i ddarganfod nad oedd hynny’n wir.
Cyngor Meic
Helo ‘na,
Diolch am gysylltu; mae hyn yn sefyllfa bydd nifer o bobl ifanc yn wynebu, ac yn aml nid yw’n beth hawdd i’w wneud. I gychwyn, hoffem dy longyfarch ar fod mor ddewr i ddod allan i dy rieni. Roeddet yn ddewr iawn a dylet ti deimlo balchder. Gobeithiwn fod y cyngor yma yn helpu ti i siarad gyda dy rieni am hyn.

Parhau i siarad
Efallai dy fod di wedi gobeithio cael ymateb hollol wahanol gan dy rieni, ond dwi’n siŵr bod dod allan o’r diwedd wedi rhoi ychydig o ryddhad i ti. Cofia, nid yw’r ymateb gwreiddiol yn adlewyrchiad o’u teimladau unwaith iddynt gael cyfle i brosesu popeth. Efallai bod hyn yn sioc iddynt i gychwyn, felly paid barnu gormod am eu hymateb gwreiddiol.
Mae’n swnio fel bod dy fam wedi ymateb yn fwy derbyniol. Efallai gallet ti siarad â hi i gychwyn, a dweud wrthi sut roeddet ti’n teimlo ar ôl ymateb dy dad. Mae’n amlwg bod hyn yn newyddion iddyn nhw, ac mae’n eithaf tebygol bod y ddau wedi bod yn siarad am hyn gyda’i gilydd ers hynny. Er bod dy fam yn teimlo mai dy le di oedd dweud wrth dy dad, erbyn hyn efallai bydd hi’n hapus i helpu ti i siarad ag ef.
Y peth pwysig ydy cadw’r deialog yn agored. Paid gadael i hyn fod yn un o’r pethau sydd byth yn cael ei grybwyll eto, yn gwneud popeth yn lletchwith. Bydd parhau i drafod hyn yn helpu i normaleiddio’r sefyllfa. Mae’n debyg y bydd hyn yn anodd ond cofia mai trafodaeth ydyw, nid ffrae. Esbonia dy deimladau i dy dad. Gwranda arno a cheisio peidio cymryd pethau i galon. Mae hwn yn brofiad dysgu i’r ddau ohonoch.

Dangos parch
Os ydy dy dad yn dweud nad oes neb yn cael dod i’r tŷ, yna dangosa barch i’w benderfyniad am nawr. Dyw hyn ddim yn flaenoriaeth ar hyn o bryd. Rwyt ti angen canolbwyntio ar dy berthynas gyda dy rieni. Bydd hyn yn dipyn o addasiad i bawb, ac mae angen caniatáu amser i hyn. Mae’n bwysig bod pawb, gan gynnwys ti, yn bod yn ystyriol, yn gwrando ar eich gilydd, ac yn ceisio deall safbwynt y person arall. Efallai bydd caniatáu i ffrindiau ddod draw yn rhywbeth gallech chi ei drafod yn hwyrach ymlaen, unwaith i dy rieni ddod yn fwy derbyniol o’r sefyllfa.
Efallai bod y ffaith nad allet ti ddod â rhywun adref yn gwneud i ti deimlo’n gaeth, ond nid oes rhaid cael pobl draw i’r tŷ i dreulio amser â nhw. Gallet ti droi at ffrindiau, neu ymuno â grwpiau, elusennau neu gymdeithasau i gyfarfod â phobl o’r un meddylfryd. Bydd posib i ti siarad am dy bryderon a phroblemau gyda phobl eraill sydd wedi profi sefyllfa debyg i ti. Os nad wyt ti’n gyfforddus i siarad â rhywun wyneb i wyneb, gallet ti gysylltu â Meic am gyngor pellach (manylion ar waelod y dudalen hon).

Cymorth pellach
Mae gan Stonewall lawer o gymorth ar ddod allan fel LHDTC+ ar yr hwb Young Futures. Nod Stonewall ydy brwydro am gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.
Llinell Gymorth LGBT+ Cymru – Llinell gymorth am ddim i Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol, Traws, Rhyngrywiol, Cynghreiriad a Theuluoedd yng Nghymru. Galwa 0800917 9996.
Pob lwc
If you need to talk to someone about anything that’s bothering you, then call Meic to talk to a friendly advisor. Meic is an information and advocacy helpline for children and young people aged 0-25 in Wales. We are open 8am to midnight, 7 days a week.
