Hide Page

Ydw i’n Hoyw? Sut i Ddod Allan

Mae bod yn berson ifanc yn gyfnod o ddarganfod pwy wyt ti. Y pethau ti’n hoffi, y pethau ti’n eu casáu, pwy yw dy ffrindiau, beth wyt ti am wneud â dy fywyd a deall dy rywioldeb.


Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.


Wyt ti’n ansicr am dy deimladau? Paid â phoeni. Mae Meic yma i helpu.

Ydw i’n hoyw neu’n lesbian?

Os wyt ti’n ffansïo rhywun o’r un rhyw yna gallai feddwl dy fod di’n hoyw, ond nid yw hynny’n bendant. Nid yw’n anarferol i deimlo atyniad at rywun o’r un rhyw weithiau. Mae bod yn hoyw yn golygu bod y teimladau yma yn fwy na chrysh fach.

Paid teimlo dan bwysau i benderfynu os wyt ti’n hoyw neu beidio. Rho amser a gofod i dy hun i feddwl am y ffordd rwyt ti’n teimlo. Wrth i ti fynd yn hŷn mae newidiadau mawr yn digwydd i’r corff a’r emosiynau. Mae hyn yn rhan o dyfu a dod i ddeall pwy wyt ti. Ond mae’r cyfnod yma’n gallu bod yn un dryslyd ac anodd weithiau. Ar ddiwedd y dydd, ti sydd yn adnabod dy hunan orau. Paid caniatáu i bobl ddweud wrthyt ti mai cyfnod neu fympwy yw hyn pan wyt ti’n gwybod yn well.

Mae darganfod dy fod di’n hoyw am y tro cyntaf yn gallu bod yn brofiad ofnus a dryslyd, ond mae bod yn wir i ti dy hun yn bwysig. Cychwynna wrth ddweud dy fod di’n hoyw. Un o’r ffyrdd gorau i deimlo’n gyfforddus ac yn hapus yng nghroen dy hun ydy chwilio am help i dderbyn pethau. Mae hwn yn gychwyn da.

Os hoffet ti siarad ymhellach am hyn yna gallet ti  gysylltu â llinell gymorth Meic (manylion isod) a bydd un o’n cynghorwyr yn gallu helpu. Gallet ti hefyd ymweld â Stonewall Cymru.

Image of fist indicating strength in rainbow colours for coming out article

Dod allan

‘Dod allan’ ydy pan wyt ti’n dweud wrth dy deulu a ffrindiau dy fod di’n lesbiad, hoyw, deurywiol neu draws. Mae’r profiad yma yn gallu bod yn wahanol i bawb. Efallai bydd yn cymryd amser i ti deimlo’n ddigon cyfforddus a hyderus i siarad gyda phobl. Mae’r mwyafrif o bobl eisiau bod yn agored am y person ydynt, yn enwedig i’r bobl sydd agosaf atynt, ond nid oes rhaid i ti ddweud wrth bawb. Dy ddewis di yw hyn. Ti sydd yn penderfynu pwy i siarad â nhw a phryd i wneud hyn.

Meddylia pwy hoffet ti siarad â nhw gyntaf. Dylai hyn fod yn rhywun cefnogol, fel aelod teulu, ffrind neu athro rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt. Gall y person yma gynnig cefnogaeth i ti i ddweud wrth bobl eraill yn dy fywyd. Ond cofia, mae posib na fydd pethau’n aros yn ddistaw am hir. Meddylia’n ofalus pwy rwyt ti am ddweud wrthynt a’r posibilrwydd y gall hyn cael ei rannu cyn i ti fod yn barod am hynny.

Rainbow flag with heart cut out in middle for coming out article

Sut i ddweud wrth bobl

Mae’n naturiol y gall hyn fod yn sgwrs anodd. Mae siarad gydag unrhyw un am ryw a rhywioldeb yn gallu bod yn anodd pa un ai wyt ti’n heterorywiol, cyfunrywiol, deurywiol, panrywiol, anrhywiol ayb. Byddai’n syniad da eistedd a siarad gan y gallet ti ateb unrhyw gwestiynau yn syth. Unwaith i ti gychwyn bydd siarad yn dod yn haws. Unwaith i ti ddweud wrth un person bydd yn llawer haws i ddweud wrth eraill.

Os nad wyt ti’n gyfforddus yn dweud wrth rywun wyneb i wyneb, yna beth am e-bost neu neges testun? Gallet ti ddweud wrth deulu fel hyn hefyd os fydda’n well gen ti. Mae’n rhoi cyfle i rywun feddwl am yr hyn rwyt ti wedi’i ddweud a dod i ddeall pethau cyn ymateb.

Ar ddiwedd y dydd, nid oes ffordd gywir nac anghywir i wneud hyn. Gwna’r hyn sydd yn teimlo orau i ti.

Edrycha ar 11 Awgrym Dod Allan Fel Lesbiad, Hoyw Neu Ddeurywiol gan Ditch The Label.

Galwa Meic

Os wyt ti’n poeni am dy rywioldeb neu ddod allan i deulu neu ffrindiau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni di, yna cysyllta â Meic. Gall ein cynghorwyr cyfeillgar helpu.

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.