Hide Page

Hanes Lliwgar y Faner LHDTC+

Mae’r faner Pride yn symbol o obaith, amrywiaeth a chynhwysiant (cynnwys pobl) yn y gymuned LHDTC+. Mae wedi cael ei diweddaru sawl gwaith dros y blynyddoedd i gynrychioli mwy o gymunedau yn well. Fel rhan o Fis Hanes LHDTC+ rydym am edrych ar hanes y faner arbennig hon.

Mae LHDTC+ yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a cwiar. Mae’r + yn symbol cynhwysol sydd yn cynrychioli pobl o bob hunaniaeth o fewn y gymuned.

Mae’r erthygl hon yn rhan o Ymgyrch Mis Hanes LHDTC+ Meic – clicia yma i weld mwy.

Os wyt ti’n gweld geiriau sydd yn newydd i ti yn y blog yma, fel anneuaidd, rhyngryw ayb, yna mae gan Stonewall Geirfa wych sydd yn egluro beth yw pob un gyda’r geiriau Cymraeg a Saesneg wedi’u rhestru.

Hanes y faner Pride

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd rodd y Natsïaid yn labelu dynion tybiwyd oedd yn gyfunrywiol (homosexual) gyda thriongl pinc, yn union fel yr oedd y seren Dafydd felen yn cael ei defnyddio i labelu pobl Iddewig. Roedd y dynion a orfodwyd i wisgo’r trionglau pinc, gelwir yn ‘die Rosa-Winkel’, yn cael eu hystyried fel yr ‘bobl waethaf’.

Yn dilyn y rhyfel, penderfynodd rhai pobl LHDTC+ i adennill y symbol triongl pinc. Roedd pobl yn ei wisgo i ddangos cefnogaeth i rai yn y gymuned a oedd yn cael eu cosbi am fod yn hoyw.

Ond, roedd llawer o bobl eisiau symbol newydd o falchder ar gyfer y gymuned LHDTC+. Harvey Milk oedd un o’r bobl yma, un o’r swyddogion etholiadol hoyw gwbl agored cyntaf yn America. Anogodd Gilbert Baker, arlunydd Americanaidd hoyw agored, a oedd hefyd yn gyn-filwr, actifydd a brenhines drag, i greu symbol o falchder ar ran y gymuned LHDTC+.

Gilbert Baker's Original Pride Flag colours - pink, red, orange, yellow, green, turquoise, indigo and violet

Ysbrydoliaeth Gilbert

Dywedodd Gilbert bod ysbrydoliaeth am yr enfys wedi dod o gân Over The Rainbow gan Judy Garland o’r ffilm Wizard of Oz. Roedd llawer yn gallu uniaethu â’r gân ac yn sydyn iawn fe ddaeth yn anthem i’r gymuned LHDTC+. Bu farw Judy Garland ar 22ain Mehefin 1969, wythnos cyn terfysgoedd Stonewall. Yn y cyfnod yma, mabwysiadwyd yr enfys fel symbol.

Mae cred bod cynllun streipiog y faner Pride  wedi ei hysbrydoli gan Faner Ddynol Ryw. Defnyddiwyd hwn yn yr 1960au i brotestio am heddwch y byd. Roedd pum streipen iddo  – coch, gwyn, du, brown, a melyn.

Gan ddefnyddio hwn fel ysbrydoliaeth, cynlluniodd Gilbert fersiwn cyntaf y faner Pride yn 1978.

Ystyr y lliwiau

Mae ystyr gwahanol i bob lliw ar y faner Pride. Roedd cynllun gwreiddiol Gilbert yn cynnwys wyth lliw gwahanol:

  • Pinc poeth – Rhyw
  • Coch – Bywyd
  • Oren – Iachau
  • Melyn – Heulwen
  • Gwyrdd – Natur
  • Gwyrddlas – Hud/Celfyddyd
  • Indigo – Tawelwch
  • Fioled – Ysbryd

Ond, daeth y lliwiau pinc a gwyrddlas yn rhy ddrud i’w masgynhyrchu, felly cafwyd gwared ar y rhain flwyddyn wedyn – gan greu’r faner Pride 6 lliw cyffredin gwelir heddiw.

Philadelphia Pride Flag colours black, brown, red, orange, yellow, green, indigo and violet

Baner Pride Philadelphia

Yn 2017 cafwyd dehongliad newydd o’r faner Pride. Fel awgrymir yn yr enw, cynlluniwyd hwn yn Philadelphia, America. Ychwanegwyd streipiau Du a Brown i’r chwe lliw arall i gynrychioli undeb rhwng rhywioldeb, hil a hunaniaeth ryw. Cafodd ei greu i eirioli a chynrychioli pobl LHDTC+ o liw.

Progress Flag - red, orange, yellow, green, indigo and violet stripes; black, brown, light blue, pink and white chevron

Y Faner Cynnydd

Yn 2018 cynlluniwyd baner newydd, y Faner Cynnydd, wedi ei ysbrydoli gan y faner Pride Philadelphia. Tra bod yr ystyr y tu ôl i’r faner Pride Philadelphia yn bwysig iawn, roedd Daniel Quasar, cynllunydd graffeg anneuaidd (non-binary), yn meddwl ei fod yn anodd gweld yr holl liwiau ar y faner mewn ffurf streipiau yn unig. Penderfynodd greu cynllun baner newydd gydag ychwanegiadau.

Mae’r faner Cynnydd yn defnyddio’r faner Pride fel sylfaen, gan ychwanegu chevron ar yr ochr chwith. Mae 5 lliw i’r chevron– du, brown, glas golau, pinc, a gwyn. Mae’r du a brown yn cynrychioli cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill sydd ar y cyrion. Mae’r glas golau, pinc, a gwyn yn cynrychioli unigolion trawsryweddol (transgender) ac anneuaidd (non-binary).

Bwriad fersiwn yma’r faner yw gosod cymunedau pobl o liw a phobl trawsryweddol sydd ar y cyrion ar y pen blaen. Mae’r saeth yn pwyntio i’r dde i ddangos symud ymlaen ond mae’n eistedd ar yr ochr chwith i ddangos y cynnydd sydd dal angen digwydd.

Mae’r faner newydd yn gwahaniaethu rhwng y defnydd o’r enfys i gefnogi’r GIG yn ystod y pandemig coronafeirws, yn ogystal â chynrychioli’r newidiadau yn ein cymuned a’n byd dros amser.

Intersex Flag - red, orange, yellow, green, indigo and violet stripes; black, brown, light blue, pink and white chevron with a yellow triangle and purple circle

Baner Pride Rhyngryw

Yn 2021 rhannwyd fersiwn newydd o’r Faner Pride Cynnydd wedi ei diweddaru gan Valentino Vecchietti o Intersex Equality Rights UK. Mae triongl melyn a chylch porffor wedi’u hychwanegu i’r chevron i gynrychioli’r gymuned rhyngryw (intersex)

Baneri Pride eraill

Dros y blynyddoedd, mae sawl fersiwn gwahanol o faneri Pride wedi’u cynllunio i gynrychioli rhywioldeb a rhywiau amrywiol y gymuned LHDTC+. Mae’r rhain yn cynnwys baneri Lesbiaidd, Deurywiol, Panrywiol, Anneuaidd, Anrhywiol a Trawsryweddol.

Defnyddiwyd y baneri yma fel ffordd i rannu eu hunaniaeth â balchder gyda phobl eraill. Tra bod amrywiaeth o faneri Pride ar gael, nid oes yr un wedi’i chreu i gymryd lle’r gwreiddiol. Mae pob un yn ychwanegu rhagolwg unigryw a modern i amrywiaeth y gymuned LHDTC+ a’r farn sydd yn newid ar draws y byd.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru.

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.