Mae Meic yn derbyn sawl cyswllt gan blant a phobl ifanc yn ymwneud ag iechyd meddwl. Fe yrrodd person ifanc y gerdd yma atom, sydd yn disgrifio gwellhad, a’r llwybr hir ac anodd tuag ato.
Gwelhad: Y Gwirionedd
Y gwir yw bod gwellhad yn anodd, anodd iawn
Rwy’n gwybod hyn gan fy mod i’n ceisio.
Rwy’n deall y gwirionedd mai ffordd hir yw gwellhad, un teithiwyd ar ben fy hun,
Nid rhosod prydferth a phobl yn profi y gallant newid yw gwellhad,
Mae’n rhaid cropian drwy’r llwyni
Ac yna tynnu’r drain o dy groen.
Nid byddin o bobl ydyw, yn helpu ti i adeiladu ffau ciwt gyda goleuadau bach a llyfrau lliwio,
Mae’n dysgu sut i greu gofod diogel i ti, yng nghanol y corwynt hyd yn oed
Mae angen gwasgu dy ddannedd a symud ymlaen yn ddistaw ond yn benderfynol,
Mae’n rhaid edrych ar yr olygfa o ble’r wyt ti
Nid edrych tuag at frig y mynydd a meddwl pa mor bell sydd ar ôl i ddringo,
Weithiau bydd gwellhad yn ymwneud â chael pobl dda a sgyrsiau da o’th gwmpas.
Am ddysgu sut i ymddwyn mewn distawrwydd,
heb deimlo’r angen i lenwi’r gwacter.
Mae gwellhad yn ymwneud â deffro pob dydd a phenderfynu brwydro.
Er pa mor anodd yw hynny.
Mae’n rhaid parhau i frwydro hyd yn oed pan fyddi di’n teimlo bod y nosweithiau’n hir ac na fydd yr haul yn codi eto,
Ac mae’n rhaid parhau i ddewis gwella, pan fydd popeth yn teimlo’n dywyll.
Y gwir yw, mae gwellhad yn anodd,
Yn anodd, anodd iawn,
Ond mae’n werth ei wneud.
– gan Paige’Sydney
Angen help?
Mae materion iechyd meddwl yn eithaf cyffredin, er gallant amrywio ym mha mor ddifrifol ydynt. Mae’n beth da iawn i siarad am dy iechyd meddwl ac mae Meic yma i helpu. Os wyt ti angen siarad yna cysyllta’r llinell gymorth ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos.
