Hide Page

Ymweliadau Glas a Hanfodol Meic 2019

Rydym wedi cael hwyl yn cyfarfod gyda llawer ohonoch mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Dyma’n cyfle i ddweud pa mor wych oedd cael cyfarfod gyda phob un ohonoch.

Fel llinell gymorth rydym yn cael siarad gyda llawer o blant a phobl ifanc ar y ffôn, drwy neges testun neu negeseuo ar-lein, felly mae’n grêt cael dod allan i gyfarfod gyda rhai ohonoch wyneb i wyneb a rhoi gwybodaeth i fwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru am y gwasanaeth Meic a sut gallem helpu.

A Meic stand set up at an event with a laptop on the table. A person is sat behind the table in a Meic branded purple tshirt

Blas y glas

Yn fis Medi rhoddom flas o Meic i bobl ifanc mewn Ffeiriau’r Glas yn rhai o golegau a phrifysgolion Cymru. Cawsom gyfarfod â myfyrwyr newydd i ddweud sut gall Meic helpu. Ydy astudiaethau’n anodd? Poeni am dy ddewisiadau ac yn anhapus gyda dy gwrs? Teimlo’r straen oherwydd arholiadau? Gall Meic helpu gyda’r pethau yma i gyd. Galwa, neu edrycha ar rai o’r erthyglau yma gall helpu:

Two photos, one of young people recording a voiceover with mics and the second with a stll from the video they are voicing, a boy and a girl sat on a park bench.

Dysgu’r Hanfodol

Rydym wedi cyfarfod â miloedd ohonoch mewn digwyddiadau Crucial Crew, yn ymuno gyda sefydliadau fel y Gwasanaeth Tân, Sant Ioan a’r Heddlu i roi gwybodaeth i ddisgyblion blwyddyn 7 am sut i aros yn ddiogel, a pa wasanaethau sydd yn gallu helpu. Mae wedi bod yn wych cael cyfarfod gyda phawb, yn gwrando ac yn ateb eich holl gwestiynau.

Mae gennym fideo newydd sbon wedi’i gynhyrchu i’w ddefnyddio yn nigwyddiadau’r Crucial Crew y flwyddyn hon. Roeddem wedi creu fersiwn ddrafft i gychwyn, a dangoswyd hwn yn y digwyddiadau Crucial Crew cyntaf. Gofynnwyd am adborth ac mae’r fersiwn orffenedig wedi cael ei gynhyrchu gan ProMo Cymru gyda Talar Rhys-Dillon a Solly Walters o Ysgol Sant Curig, Y Bari, yn darparu troslais gwych. Mae gennym lawer o ddigwyddiadau Crucial Crew dal i ddod yn y flwyddyn newydd, felly edrychwn ymlaen at ddangos ein fideo newydd i lawer mwy o ddisgyblion blwyddyn 7 ledled Cymru.

Rhywun ar dy ochr di

Cofia – mae Meic yma i ti o hyd, ac os wyt ti angen rhywun i wrando arnat ti, i gynnig cyngor neu i helpu ti i ddatrys problem, yna rydym yma o 8yb tan hanner nos pob dydd, hyd yn oed ar ddiwrnod Nadolig.

Dyma rai erthyglau ar ein gwefan gallai fod yn ddefnyddiol. Gallet ti hefyd chwilio trwy ein blogiau dy hun i weld os oes unrhyw erthyglau wedi’u cyhoeddi yn barod fydda’n gallu helpu:

Meic – Rhywun ar dy ochr di – 8yb tan hanner nos, pob dydd o’r flwyddyn.

Nadolig Llawen / Merry Christmas from us all here at Meic

Ffôn
080880 23456

Neges WhatsApp
080880 23456

Sgwrs Ar-lein
Cychwyn sgwrs fyw

Neges Testun
07943 114 449

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.