Amdanom Ni
Chwilio am wybodaeth? Angen cyngor? Eisiau cefnogaeth?
Cysyllta â Meic
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
O ddarganfod beth sy’n digwydd yn dy ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando, hyd yn oed pan fydd neb arall yn. Ni fyddem yn barnu a byddwn yn helpu wrth roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnat ti i gyflawni newid.
Cysyllta â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg – dy ddewis di! Rydym yn agored o 8yb i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysyllta ar y ffôn, neges WhatsApp, neges destun neu sgwrs ar-lein. Mae Meic yn gyfrinachol ac nid oes rhaid i ti roi enw. Mae’n wasanaeth am ddim i bawb.
