Hide Page

Arian

Beth ydy Cronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Cyflwynwyd y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrif i bron i 6 miliwn o blant wedi eu geni rhwng 1af Medi 2002 a 2il Ionawr 2011.

Bwriad y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant oedd i:

  • sicrhau bod gan bob plentyn arian wedi’i gynilo (saved) erbyn eu pen-blwydd yn 18 oed
  • helpu i ddod i’r arfer â chynilo
  • dysgu buddiannau cynilo
  • helpu deall cyllid personol

Os nad oedd dy rieni/gwarchodwyr wedi agor cyfrif i ti cyn i ti droi’n un oed, yna roedd y HMRC (sydd yn gyfrifol am drethi, taliadau a thollau) yn gwneud ar dy ran.

Os wyt ti’n 16 oed neu’n hŷn, rwyt ti’n cael penderfynu ble mae’r arian yma yn cael ei fuddsoddi.

Os wyt ti’n 18 oed neu’n hŷn, fe gei di fynediad i’r arian yma.

Os wyt ti’n meddwl bod gen ti arian mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar Gronfa Ymddiriedolaeth Plant:

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.