Hygyrchedd
Cynhelir y wefan hon gan ProMo Cymru
Hoffem i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.
Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylet allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud dy ddyfais yn haws i’w defnyddio os oes gen ti anabledd.
Hygyrchedd y wefan
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai labeli ffurflenni yn unigryw
- nid oes gan rai delweddau destun amgen da
- mae gan rai tudalennau gyferbyniad gwael
- nid yw rhywfaint o destun dolen yn disgrifio pwrpas y ddolen
- mae rhai dogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os wyt ti angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu Braille:
E-bost: info@promo.cymru
Ffonia: 02920 462222
Byddwn yn ystyried dy gais ac yn cysylltu o fewn 1 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os wyt ti’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysyllta â: info@promo.cymru a byddwn yn hapus i’th cynorthwyo.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad wyt ti’n hapus â sut rydym yn ymateb i’th cwyn, cysyllta â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun i bobl sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os wyt ti’n cysylltu â ni cyn dy ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Promo Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 – safon Lefel AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
- Nid oes gan un ffurflen y tagiau cywir yn eu lle, mae hyn yn methu â meini prawf llwyddiant WCAG 2.1
- Rydym yn bwriadu ychwanegu’r tagiau cywir erbyn mis Medi 2020
- Mae sawl dolen pennawd wedi’u nodi fel rhai â chyferbyniad gwael
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Glue Studio i gywiro’r problemau hyn erbyn mis Medi 2020.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gydymffurfio’n llawn â WCAG 2.1 erbyn mis Medi 2020
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 1af Medi 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 1af Medi 2019.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 1af Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan ProMo Cymru mewn partneriaeth â WAVE a Glue Studio.
